Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (64) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13:30.
Gofynnwyd cwestiynau 1-11, a chwestiwn 13. Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl.
Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.11
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Trawsnewid—Cyflawni ar y Cyd
Dechreuodd yr eitem am 14.16
4. Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwysedd i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012
Dechreuodd yr eitem am 14.49
NDM4983 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwysedd i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Dadl ar Law yn Llaw at Iechyd – adroddiad cynnydd chwe mis
Dechreuodd yr eitem am 14.53
NDM4981 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd wrth weithredu “Law yn
Llaw at Iechyd”
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
“ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dangos atebolrwydd llwyr am y GIG; a
b) amlinellu’n glir y rhesymau ariannol a chlinigol dros unrhyw gynigion i ad-drefnu ysbytai.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd gweddill y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod agenda Llywodraeth Cymru, ‘Law yn Llaw at Iechyd’ yn cynnwys cynlluniau i leihau nifer y safleoedd ysbytai sy’n darparu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys 24/7 o dan law meddyg ymgynghorol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
23 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn erbyn israddio ysbytai lleol a gwasanaethau iechyd ar draws Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
24 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn unrhyw newidiadau arfaethedig i ddarpariaethau gwasanaethau’r GIG o ganlyniad i ‘Law yn Llaw at Iechyd’, cyn gynted â phosibl er mwyn gallu hwyluso trafodaethau deallus yn lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4981 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd wrth weithredu “Law yn Llaw at Iechyd” ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dangos atebolrwydd llwyr am y GIG; a
b) amlinellu’n glir y rhesymau ariannol a chlinigol dros unrhyw gynigion i ad-drefnu ysbytai.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn unrhyw newidiadau arfaethedig i ddarpariaethau gwasanaethau’r GIG o ganlyniad i ‘Law yn Llaw at Iechyd’, cyn gynted â phosibl er mwyn gallu hwyluso trafodaethau deallus yn lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
10 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6. Dadl ar bolisi Teithio Byw Llywodraeth Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.41
NDM4982 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn ystyried polisïau teithio llesol Llywodraeth Cymru, a photensial teithio llesol o ran mynd i’r afael â thlodi, gwella iechyd y cyhoedd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder nad yw Cymru, ar hyn o bryd, ar y llwybr cywir i gyrraedd targedau allweddol a gaiff eu diffinio yng Nghynllun Gweithredu Cerdded a Beicio Llywodraeth Cymru.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrian De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r sylwadau a wnaeth Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, y bu cynnydd y Llywodraeth yn ansicr o ran annog newid ymddygiad tuag at ddewisiadau teithio doethach.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 3 - William Graham
(Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar effaith gronnol ei mentrau teithio llesol ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - Peter Black
(Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau cerdded a llwybrau beicio lleol wedi’u cysylltu â’i gilydd a chanolfannau teithio eraill er mwyn creu llwybrau rhanbarthol a chenedlaethol hyfyw.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 5 - Peter Black
(Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid ei gwneud yn orfodol i bob datblygiad cynllunio mawr ystyried yr angen am fynediad rhwydd i gerddwyr a beicwyr.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM4982 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn ystyried polisïau teithio llesol Llywodraeth Cymru, a photensial teithio llesol o ran mynd i’r afael â thlodi, gwella iechyd y cyhoedd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Yn nodi â phryder nad yw Cymru, ar hyn o bryd, ar y llwybr cywir i gyrraedd targedau allweddol a gaiff eu diffinio yng Nghynllun Gweithredu Cerdded a Beicio Llywodraeth Cymru.
Yn nodi’r sylwadau a wnaeth Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, y bu cynnydd y Llywodraeth yn ansicr o ran annog newid ymddygiad tuag at ddewisiadau teithio doethach.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar effaith gronnol ei mentrau teithio llesol ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau cerdded a llwybrau beicio lleol wedi’u cysylltu â’i gilydd a chanolfannau teithio eraill er mwyn creu llwybrau rhanbarthol a chenedlaethol hyfyw.
Yn credu y dylid ei gwneud yn orfodol i bob datblygiad cynllunio mawr ystyried yr angen am fynediad rhwydd i gerddwyr a beicwyr.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 16.25
Daeth y cyfarfod i ben am 16:29
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mercher, 16 Mai 2012